Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 29 Ebrill 2019
Amser:
13.16 -
15.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5449
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Simon Dean, Llywodraeth Cymru Judith Paget, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
|
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Stephen Lisle Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AC. Ni chafwyd dirprwy ar
eu rhan.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymateb a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael copi o'r adroddiad ar yr hyn a ddysgwyd y cyfeiriwyd ato yn yr ymateb.
4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, a Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
4.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:
· gwerthusiad y Bwrdd Gofal Sylfaenol o'r trefniadau a wnaed gan fyrddau iechyd i sicrhau bod y galw yn cael ei fodloni dros fisoedd y gaeaf
· y dangosyddion ansawdd sy'n cael eu monitro ar hyn o bryd
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd yr Aelodau cylch gwaith y Pwyllgor a'i nodi.